Mojim Lyrics
Mojim Lyrics > Americas singers > Gruff Rhys > Miscellaneous > Caerffosiaeth

Gruff Rhys



Lyrics
Album list

Gruff Rhys

Caerffosiaeth

Lyricist:Gruff Rhys

Adeiladau mileniwm
Mewn ffug alminiwm
Goruwch-ystafelloedd
Am hanner miliwn o bunnoedd

Tyfwn adenydd
Tra'n yfed Ymennydd
Mewn tafarndai thema
A dim golwg o'r Wyddfa

Dw i'n byw a bod
Dw i'n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a'r dod

Find more lyrics at ※ Mojim.com
Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol
Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol
Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion
Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus

Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod
Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod
Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth
Ymfudwn o amaeth

O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod
Arnofio yn y bae,Yn y baw a'r dod